Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 a Fideo Gynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2022
Amser:
09.00 -
12.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12904
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Natasha Asghar AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Gerwyn Evans, Cymru Greadigol Tim Howard, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Jason Thomas, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock Alastair McQuaid Seth Newman |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Owain Davies (Ail Glerc) |
1 Adfywio Canol Trefi: Papur Cwmpasu diwygiedig
1.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu diwygiedig a chytunodd i gynnal ymweliadau â chanol trefi amrywiol fel rhan o'r ymchwiliad.
2 Papur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael
2.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael.
3 Blaenraglen waith Diweddariad
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.
4 Comisiynu Cartrefi Gofal: Trafod yr adroddiad
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad ynghylch comisiynu cartrefi gofal a chytuno arno.
5 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
5.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.
6 Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Prynu Fferm Gilestone
6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar brynu Fferm Gilestone gydag Andrew Slade, Jason Thomas, Gerwyn Evans a Tim Howard o Lywodraeth Cymru.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru: Prynu Fferm Gilestone: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
8.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y tystion gyda nifer o gwestiynau ychwanegol.